Ein gwerthoedd craidd

Lles (mewn natur)

Rydym yn cydnabod bod heriau iechyd meddwl yn effeithio’n anghymesur ar fywydau LGBTQIA+. Mae lles yn ganolog i’n holl weithgareddau. Yn arbennig, profwyd bod mannau gwyrdd yn gwella lles corfforol, emosiynol a meddyliol. Rydym yn gwerthfawrogi bod cŵn yn ein cysylltu â mannau gwyrdd yn amlach.

Caredigrwydd a Dealltwriaeth

Rydym yn cydnabod bod rhai dyddiau yn well nag eraill. Rydym yn ymarfer caredigrwydd a dealltwriaeth fel moeseg o ofal cymunedol. Trwy hyn rydym yn adeiladu amgylcheddau anogol a chefnogol sy’n croesawu’r unigolyn, ac yn meithrin dealltwriaeth rhwng pobl o dueddiadau rhywiol a rhywedd amrywiol.

Balchder

Rydym yn dod ynghyd â, a thrwy, ein synnwyr o falchder. Hynny yw, balchder yn ein cymuned, a balchder yn ein cŵn a’r rôl maen nhw’n ei chwarae ym mywydau LGBTQIA+.

Perthnasau mwy-na-dynol

Gwyddom fod cŵn yn rhan annatod o sut mae unigolion LGBTQIA+ yn dychmygu ac yn actio teulu. Rydyn ni’n gwerthfawrogi carennydd mwy-na-dynol sy’n cynnig sylfaen sefydlog o gariad diamod, ymdeimlad o berthyn, ac sy’n ein galluogi i adeiladu teuluoedd nad ydynt wedi’u diffinio gan gysylltiadau gwaed/biolegol yn unig.

Alcohol – Man Cymdeithasol Heb Sylweddau

Yn aml gall mannau cymdeithasol LGBTQIA+ ganolbwyntio ar ddiwylliant yfed bywyd nos ifanc a bywiog. Fodd bynnag, mae bywydau LGBTQIA+ yn wynebu heriau iechyd meddwl unigryw a all eu gadael yn fwy agored i ddefnyddio sylweddau. Rydym yn cynnig lle iach, diogel, di-alcohol, amgen i bobl gyfarfod a chymdeithasu.