Newid yn y Tymhorau
Wrth i’r gwanwyn ddod i’r amlwg yn y DU, mae’r byd o’n cwmpas yn dechrau ar ei drawsnewidiad tawel. Yr arwydd cyntaf yn aml yw’r eirlys, yn edrych yn swil drwy’r rhew, addewid ysgafn bod gafael y gaeaf yn llacio. Bron heb sylwi, rydym yn sylweddoli bod y dyddiau’n ymestyn yn hirach, mae’r hyn a oedd unwaith yn gyfnos am 4pm yn cilio’n araf, gan fynd yn agosach at 6pm.
Nid dim ond gweld y newid hwn rhwng tymhorau rydyn ni, ma hefyd yn rhywbeth rydyn ni’n ei deimlo a’i synhwyro, yn allanol ac yn fewnol. I’r rhai sy’n dyheu am olau’r haul, gall y gaeaf fod yn straen mawr, a dyfodiad y gwanwyn yn rhyddhad. Efallai bod eraill wedi cael cyfle dros y gaeaf i orffwys, myfyrio ac adnewyddu. Bydd rhai wedi teimlo bod y Flwyddyn Newydd wedi dod â chyfle i ddechrau o’r newydd, agor pennod newydd, ond eraill wedi teimlo bod y Flwyddyn Newydd heb gynnig unrhyw beth newydd, “Yr un hen stori, diwrnod gwahanol”.
Ac eto, waeth sut y dechreuodd eleni i ni, mae natur yn symud yn ei flaen. Mae’r lili wen fach yn cadw ei haddewid tawel, a’r genhinen bedr euraid yn ymuno â hi, ynghyd ag arogl blodau eraill yn blaguro. Fel y dywed yr hen air, dyw amser ddim yn aros i unrhyw un… ac mae natur yn brawf o hynny.
Ymwybyddiaeth Reddfol Cŵn
Mae’r newid hwn rhwng y tymhorau yn ein gwahodd i arafu ac addasu i’n hamgylchedd, yn debyg iawn i’r ffordd mae cŵn yn ei wneud. Mae cŵn yn hynod graff, yn gallu synhwyro pethau fel ffitiau mewn pobl, a stormydd. Maen nhw’n gallu arogli straen yn ein hanadl a’n chwys, a deall ein hwyliau drwy ddarllen tensiwn, tôn ac iaith y corff. Maen nhw’n cwtsio aton ni pan fyddwn ni’n teimlo’n isel, yn ein tynnu ni i’r presennol gyda’u egni chwareus, ac yn ein hannog i fynd allan, i fwynhau’r haul, ac i ailgysylltu. Mae’r bawen ysgafn, fel pe bai’n gofyn, “Wyt ti’n iawn? Dwi’n synhwyro bod rhywbeth o’i le,” yn cynnig y sicrwydd sydd ei angen arnon ni i fod yn fwy meddylgar ac i ganfod cydbwysedd unwaith eto. Mae gan gŵn allu anhygoel i synhwyro newidiadau yn eu hamgylchedd a deall cyflwr emosiynol eu pobl, heb angen geiriau.
Ymwybyddiaeth Sythweledol – Pŵer Super LGBTQIA+
Yn debyg iawn i’n cŵn, mae gan lawer o unigolion LHDTCRhA + allu rhyfeddol i synhwyro newidiadau yn eu hamgylchedd, deall pethau heb fod angen geiriau, ac ymdeimlo â’r ddeinameg o’u cwmpas. Boed yn asesu pa mor ddiogel mae lle, sylwi ar newidiadau cynnil mewn tôn yn ystod sgwrs, neu’n penderfynu pryd a sut i ddatgelu ein rhywedd neu ein hunaniaeth rywiol, mae ein dealltwriaeth reddfol yn ein helpu i lywio byd sy’n aml yn gofyn i ni fod yn fwy gofalus. Dros amser, mae’r sensitifrwydd hwn yn dod yn ail natur, gan ein tywys trwy fyd sy’n dal yn llawn arferion gwahaniaethol. Er bod yr ymwybyddiaeth hon yn ein galluogi i symud trwy fywyd gyda gofal a mewnwelediad, gall hefyd fynd yn llethol, yn ein gadael yn emosiynol flinedig, ar bigau’r drain yn aml. Ond mae hefyd yn golygu bod gyda ni’r gallu i addasu at gymhlethdodau’r byd, i ymgysylltu ag ef ac i lywio ein ffordd drwyddo, gan ganiatáu i ni weld y byd mewn ffordd wahanol i bobl eraill efallai.
“Mae’r gwmnïaeth dyner a sensitif a gynigir gan berson empathig… yn rhoi goleuni ac iachâd. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, rwy’n credu, dealltwriaeth ddofn yw’r anrheg werthfawrocaf y gall rhywun ei rhoi i rywun arall”. – Carl Rogers
Pum Ffordd i Gofleidio Sensitifrwydd fel Cryfder
Wrth i’r tymhorau newid ac wrth i’n cŵn ein hatgoffa i aros yn bresennol, gallwn ninnau hefyd gofleidio ein sensitifrwydd, nid fel baich, ond fel cryfder. Fel y tymhorau cyfnewidiol, mae ein hymwybyddiaeth yn ein galluogi i addasu, i gysylltu ac i dyfu.
1. Ymddiried yn ein Greddf
Fel Arwyddion Cyntaf y Gwanwyn
Nid yw’r lili wen fach yn aros am ganiatâd i flodeuo, mae’n gwybod pryd mae’n bryd iddi wneud. Mae sensitifrwydd yn ein helpu i sylwi ar giwiau cynnil yn ein hamgylchedd, boed drwy synhwyro hwyliau rhywun, drwy ddarllen rhwng y llinellau mewn sgwrs, neu drwy ddeall pan fo rhywbeth o’i le. Mae ymddiried yn y greddfau hyn, yn hytrach na’u gor-ddehongli, yn ein galluogi i symud trwy fywyd gyda mwy o hyder a hunan-sicrwydd.
2. Gosod Ffiniau
Fel Dychweliad Graddol Golau Ddydd
Yn union fel y mae’r dyddiau’n ymestyn yn raddol ar ôl y gaeaf, gan ganiatáu i natur addasu’n araf, rhaid i ninnau hefyd roi caniatâd i ni ein hunain i greu lle pan fo angen. Mae sensitifrwydd yn golygu ein bod yn aml yn amsugno emosiynau ac egni’r rhai o’n cwmpas, all beri blinder mawr. Mae gosod ffiniau iach, boed drwy neilltuo amser i fod ar ein pennau’n hunain, drwy gyfyngu ar ryngweithio cymdeithasol, neu drwy ddweud na pan fo angen, yn helpu i ddiogelu ein lles a chynnal cydbwysedd emosiynol.
3. Adeiladu Cysylltiadau Dyfnach
Fel Blodau Cyntaf y Gwanwyn
Mae’r gwanwyn yn dymor o adnewyddu a chysylltu, lle mae natur yn agor i fyny, ac yn ffynnu. Yn yr un modd, mae sensitifrwydd yn ein galluogi i ffurfio perthnasoedd dwfn ac ystyrlon. Oherwydd ein bod yn sylwi ar newidiadau cynnil mewn eraill, eu naws, iaith y corff, neu eu hegni, mae gyda ni’r gallu i gynnig cefnogaeth, dealltwriaeth ac empathi mewn ffyrdd sy’n cryfhau’r cysylltiadau rhyngom. Gwnewch yn fawr o’r gallu hwn i greu perthnasoedd sydd wedi’u hadeiladu ar ymddiriedaeth a dilysrwydd.
4. Aros yn bresennol
Fel Ci yn Mwynhau’r Haul
Nid yw cŵn yn meddylu am y gorffennol nac yn poeni am y dyfodol, maen nhw’n ymhyfrydu yng nghynhesrwydd yr haul, yn mwynhau’r teimlad o laswellt o dan eu pawennau, neu’n ymhyfrydu mewn mynd am dro. Weithiau, gall ein sensitifrwydd ni, ar y llaw arall, beri i ni orfeddwl neu amsugno gormod o sŵn y byd. Ond trwy fynd am dro hamddenol, chwarae gêm daflu, neu drwy ddim byd mwy na chwtsh, mae bod gyda chŵn yn ein helpu i anwybyddu’r sŵn hwnnw a dod i ddeall sut i gadw’n traed ar y ddaear. Mae eu gallu i aros yn y foment bresennol yn ein hatgoffa i wneud yr un peth, gan fynd â ni nôl i fan o heddwch a chydbwysedd.
5. Cofio mai Cryfder yw Sensitifrwydd
Fel Gwytnwch Byd Natur
Yn union fel y mae’r tymhorau’n newid at bwrpas, rydyn ninnau hefyd yn gwneud yr un peth. Weithiau gall sensitifrwydd deimlo’n llethol, ond mae hefyd yn dyfnhau ein cysylltiad â’r byd. Mae cŵn, gyda’u gallu brwd i synhwyro ein hemosiynau, yn dangos mor bwerus y gall cofleidio sensitifrwydd fod. Pan fydd cŵn yn cynnig cysur neu ddim ond yn eistedd gyda ni, maen nhw’n ein hatgoffa mai cryfder yw sensitifrwydd, sy’n hybu gwytnwch a thwf. Fel natur, sy’n addasu ac yn ffynnu trwy newid, gallwn ddysgu i ddefnyddio ein sensitifrwydd fel ffynhonnell cryfder a dealltwriaeth. Trwy gyd-daro â rhythmau byd natur, gallwn weld sensitifrwydd nid fel rhywbeth i’w wrthod, ond fel rhodd; un sy’n cyfoethogi ein cysylltiad â ni ein hunain, ag eraill, ac â’r byd sy’n newid yn barhaus o’n cwmpas.
Casgliad
Yn debyg iawn i gŵn, sy’n synhwyro’r byd trwy newidiadau cynnil iawn, rydyn ninnau hefyd yn meddu ar y rhodd o ymwybyddiaeth ddofn. Er y gall y sensitifrwydd hwn deimlo’n llethol ar adegau, mae hefyd yn ein galluogi i lywio bywyd gyda dyfnder a mewnwelediad. Drwy ymddiried yn ein greddf, gosod ffiniau, ac aros yn y presennol, rydyn ni’n trawsnewid yr hyn a all deimlo fel gwendid i fod yn gryfder mawr, y cryfaf a feddwn. Nid baich yw ein sensitifrwydd, ond pŵer sy’n ein cysylltu â rhythmau natur, yn ein galluogi i gofleidio newid, ac i dyfu’n gryfach gyda phob tymor o fywyd. Fel y lili wen fach yn torri drwy’r rhew, rydyn ni’n ffynnu pan fyddwn yn ymddiried yng ngrym ein hymwybyddiaeth, ac rydyn ni’n codi, yn wydn ac yn ddi-sigl, gyda phob newid a wynebwn.
CYSYLLTWCH – Dewch yn rhan o gymuned Rainbow Pooch Pride
Os ydych chi am archwilio’r cysylltiad dwfn rhwng bodau dynol, cŵn, a natur o fewn cymuned gynhwysol LGBTQIA+, ymunwch â Rainbow Pooch Pride ar gyfer teithiau cerdded cymdeithasol a digwyddiadau ar-lein sy’n dathlu’r cwlwm hwn. Cysylltu, ailwefru, a chofleidio cryfder sensitifrwydd gyda ni ac yn ein plith.